Trosolwg
Enw arall am batrwm yn y sêr yw ‘cytser’. Orion yw enw’r cytser hwn. Mae pobl wedi gweld y cytser hwn yn debyg i heliwr yn dal ei fraich yn yr awyr. Enw’r tair seren yn y canol yw ‘gwregys Orion’.
Yn y darlun gallwch weld enwau rhai o’r sêr sy’n ffurfio’r patrwm hefyd.