Arfbais yw’r symbol a welir gan amlaf ar darian ac sy’n perthyn i deulu arbennig. Arfbais teulu Owain Glyndŵr yw pedwar llew. Ar y rhes uchaf ceir llew coch ar gefndir melyn ac yna llew melyn ar gefndir coch. Ar y rhes isaf, ceir llew melyn ar gefndir coch a llew coch ar gefndir melyn.
Tybed beth fyddech chi’n ei ddylunio fel arfbais i’ch teulu chi?
