Yn yr hen amser, yr afanc oedd enw’r bwystfil oedd yn byw yn y llyn. Mae llawer o chwedlau am y creadur rhyfedd hwn a rhai’n dweud ei fod yn byw yn Llyn Barfog, Llyn Llion neu Lyn yr Afanc.
Erbyn heddiw, dyma’r enw Cymraeg ar yr anifail sydd fel rhyw fath o lygoden fawr y dŵr. Yn Saesneg yr enw ar yr anifail hwn yw ‘beaver’.