t.95 Hanes Castell Caerdydd

Cliciwch ar y dolenni glas i ddysgu mwy am hanes castell Caerdydd.

  1. Yn gyntaf daeth y Rhufeiniaid bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl ac adeiladu Caer, sef rhyw fath o gastell, yng Nghaerdydd.
  2. Wedyn daeth y Normaniaid (o rywle yn Ffrainc) a chodi castell gwahanol yn yr un man.
  3. Wedyn roedd teulu de Clare a rhywun o’r enw Gilbert Goch wedi dod.
  4. Wedyn daeth teulu’r Despensers.
  5. Wedyn, yn 1404 (roedd hwnnw’n ddyddiad hawdd i gofio gyda’r 4 yn dod ddwywaith), daeth Owain Glyndŵr a llosgi’r castell. Roedd e’n grac iawn am fod pobl o’r tu fas i Gymru’n dod a dweud wrth bobl Cymru beth i wneud yn eu gwlad eu hunain. (Digon teg, meddyliodd Alfred.)
  6. Wedyn daeth teulu’r Beauchampiaid.
  7. Wedyn daeth teulu’r Neviliaid (roedd y rheiny’n swnio fel ‘anifeiliaid’).
  8. Wedyn y Tuduriaid (roedd pawb yn y dosbarth wedi clywed am y teulu hwn, a phawb yn cofio am Harri’r 8fed a briododd 6 gwaith a thorri pen dwy o’i wragedd – owtsh!)
  9. Wedyn teulu’r Herbertiaid.
  10. Wedyn teulu’r Bute
  11. A nawr Dinas Caerdydd.