t.74 Y Ddafad Gorniog

 

Mae gen i ddafad gorniog
ac arni bwys o wlân
yn pori min yr afon
ymysg y cerrig mân
ond daeth rhyw hwsmon heibio
a hysiodd arni gi
ni welais i byth mo ‘nafad
os gwn i welsoch chi?

Mi gwelais hi yn y Bala
newydd werthu’i gwlân
yn eistedd yn ei chadair
‘flaen tanllwyth mawr o dân
a’i phibell a’i thybaco
yn smocio’n abal ffri
a dyna lle mae’r ddafad
“Good morrow John, how dee?”